Acts 6

Dewis y saith

1Ond wrth i nifer y bobl oedd yn credu dyfu, cododd problemau. Roedd y rhai oedd o gefndir Groegaidd yn cwyno am y rhai oedd yn dod o gefndir Hebreig. Roedden nhw'n teimlo fod eu gweddwon nhw yn cael eu hesgeuluso gan y rhai oedd yn gyfrifol am ddosbarthu bwyd bob dydd. 2Felly dyma'r Deuddeg yn galw'r credinwyr i gyd at ei gilydd. “Cyhoeddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw ydy'n gwaith ni, dim trefnu'r ffordd mae bwyd yn cael ei ddosbarthu” medden nhw. 3“Felly frodyr a chwiorydd, dewiswch saith dyn o'ch plith – dynion mae pawb yn eu parchu ac yn gwybod eu bod yn llawn o'r Ysbryd Glân – dynion sy'n gallu gwneud y gwaith. Dŷn ni'n mynd i roi'r cyfrifoldeb yma iddyn nhw. 4Wedyn byddwn ni'n gallu rhoi'n sylw i gyd i weddi a dysgu pobl beth ydy neges Duw.”

5Roedd y syniad yma'n plesio pawb, a dyma nhw'n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu'n gryf ac yn llawn o'r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia). 6Dyma nhw'n eu cyflwyno i'r apostolion, ac ar ôl gweddïo dyma'r apostolion yn eu comisiynu nhw ar gyfer y gwaith drwy roi eu dwylo arnyn nhw.

7Roedd neges Duw yn mynd ar led, a nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn tyfu'n gyflym. Roedd nifer fawr o'r offeiriaid Iddewig yn dilyn y Meseia hefyd.

Steffan yn cael ei arestio

8Roedd Steffan yn ddyn oedd â ffafr Duw arno a nerth Duw ar waith yn ei fywyd. Roedd yn gwneud gwyrthiau rhyfeddol ymhlith y bobl oedd yn dangos fod Duw gydag e. 9Ond dyma rhai o aelodau'r synagog oedd yn cael ei galw'n ‛Synagog y Dynion Rhydd‛ yn codi yn ei erbyn. Iddewon o Cyrene ac Alecsandria oedden nhw, yn ogystal â rhai o Cilicia ac o dalaith Asia. Dyma nhw'n dechrau dadlau gyda Steffan, 10ond doedden nhw ddim yn gallu ateb ei ddadleuon. Roedd mor ddoeth, ac roedd yr Ysbryd Glân yn amlwg yn siarad trwyddo.

11Felly dyma nhw'n defnyddio tacteg wahanol, ac yn perswadio rhyw ddynion i ddweud celwydd amdano: “Dŷn ni wedi clywed Steffan yn dweud pethau cableddus am Moses ac am Dduw.” 12Wrth gwrs achosodd hyn stŵr ymhlith y bobl a'r henuriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith. Dyma nhw'n arestio Steffan ac roedd rhaid iddo ymddangos o flaen y Sanhedrin. 13Dyma rai yn dweud celwydd wrth roi tystiolaeth ar lw: “Mae'r dyn yma o hyd ac o hyd yn dweud pethau yn erbyn y deml ac yn erbyn Cyfraith Moses. 14Dŷn ni wedi ei glywed yn dweud y bydd yr Iesu yna o Nasareth yn dinistrio'r deml yma ac yn newid y traddodiadau wnaeth Moses eu rhoi i ni.”

15Dyma pob un o aelodau'r Sanhedrin yn troi i syllu ar Steffan. Roedd ei wyneb yn disgleirio fel wyneb angel.

Copyright information for CYM